CROESO I WYLIAU IWRTS MÔN
Wedi ei lleoli ar ynys brydferth Ynys Môn, mae safle Iwrts Ynys Môn yn cynnig croeseo cynnes i gampio moethus ar ei orau!
Beth bynnag yw'r tywydd, mae yna rhywbeth i'w fwynhau drwy'r adeg. Mae yma gegin wledig, fodern ynghŷd a chornel glyd i eistedd ac ymlacio. Wrth ddeffro yn eich Iwrt yn y bore cewch fwynhau golygfeydd godidog o arfordir Môn, ac mae'r gegin gymunedol yn edrych allan ar fynyddoedd mawreddog Eryri! Mae'r bloc toiledau a chawodydd yn olau a chyfoes a chyfleusterau anabl ar gael.
BETH AM EGWYL CYFOES A CHYFFORDDUS

Cynllun arallgyfeirio ar fferm deuluol weithredol yw Gwyliau Iwrt Môn yn cynnig profiadau gwahanol i'n hymwelwyr.
Gan fwynhau golygfeydd ysblennydd o arfordir gogledd-orllewinol Môn ar un ochr a mynyddoedd Eryri ar yr ochr arall, mae'r safle tawel yn cynnig lonydd gwledig, prydferth i gerddwyr a beicwyr i'w mwynhau.
Wedi ein lleoli'n hwylus ar gyfer atyniadau Môn a dim ond ychydig filltiroedd oddiwrth traethau bendigedig yr Ynys yn ogystal a'r llwybr arfordirol, mae'r safle'n encil braf a thawel wedi diwrnod prysur allan yn ymweld â'r Ynys. Os nad yw coginio neu farbaciw yn eich denu wedi chi ddychwelyd, mae llawer o fwytai ym mhentref prydferth Rhosneigr gerllaw, neu fwyd cartref yn nhafarn Y Goron, Aberffraw.
Beth am fwynhau'r Gwanwyn yn gweld cefn gwlad yn deffro? Bydd yr ŵyn a'r lloiau bach yn y caeau cyfagos, cewch weld dyfodiad y wenoliaiad, gwrandewch am gân y gwcw a chrwydrwch y lonydd bach cefn gwlad yn llawn blodau gwyllt.
Treuliwch yr Hâf ar y traethau, gweithgareddau ar y môr, teithiau cerdded hwyrnos o'r camp, barbaciws a chymdeithasu o gwmpas y pit tân.
Wedi dyfodiad mis Medi cewch fwynhau tawelwch a distawrwydd cefn gwlad yn ei gwisg Hydrefol. Closiwch at y tân yn yr Iwrt gyda'r nôs ar ol diwrnod o grwydro gororau Môn, a dydy ddim rhy hwyr I fwynhau barbaciw ac eistedd wrth y pit tân yn syllu ar y sêr! Mae'r llwybr arfordirol a'r traethau yn dawelach yr adeg yma o'r flwyddyn ond yn werth eu crwydro! Beth bynnag yw'r tywydd mae rhywbeth i'w fwynhau!
Gallwch gyrraedd y safle'n hwylus gyda thrên arfordir y Gorllewin, deng munud oddiar yr A55 gyda char, dim ond ugain munud o borthladd Caergybi a phymtheg munud o faes awyr y Fali ble mae'r awyren yn glanio o Gaerdydd.
EIN IWRTS
Mae'n Iwrts yn ymestyn y teimlad o heddwch a bodlonrwydd, a'r dodrefnu wedi ei gynllunio'n ofalus i'ch cynorthwyo i ymlacio ac ystwytho…

CWT Y BUGAIL
Newydd ar gyfer 2016! A wneir yma ar y fferm ac yn fwy na'ch cwt gyfartaledd, mae'n cael ei gynllunio i gysgu pedwar person ( pump os bydd plentyn bach yn rhannu gwely ! ) ...

AR GAEL
Mae'r Iwrts yn agored o fis Ebrill i fis Hydref. Gallwn ddarparu lle ar gyfer grŵp o15...

Mae'r prosiect hwn wedi derbyn cyllid drwy Gynllun Datblygu Cymru Wledig 2007-2013 sy'n cael ei gyllido gan Llywodraeth Cymru
a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig